Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 20 Tachwedd 2013

 

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(164)

 

<AI1>

1    Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

</AI1>

<AI2>

2    Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

 

Dechreuodd yr eitem am 14.15

Gofynnwyd y cwestiwn.

 

</AI2>

<AI3>

3    Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2, 5 i 6, 8 i 12 a 14 i 15. Tynnwyd cwestiynau 3, 4, 7 a 13 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 11 gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi.

 

</AI3>

<AI4>

4    Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros dro

 

Dechreuodd yr eitem am 14.54

NDM5368

Christine Chapman (Cwm Cynon)

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Atodlen 1, paragraff 4, i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 a Rheol Sefydlog 10.5:

Yn cytuno i enwebu'r Athro Sylvia Margaret Griffiths i'w Mawrhydi er mwyn ei phenodi yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI4>

<AI5>

5    Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014/15

 

Dechreuodd yr eitem am 14.56

NDM5361 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15, fel y pennir yn Nhabl 1 “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2014-15”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 13 Tachwedd 2013 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI5>

<AI6>

6    Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

 

Dechreuodd yr eitem am 15.07

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5363 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi polisi Ceidwadwyr Cymreig ‘Gweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r farchnad gyfan i sicrhau y ceir ateb i'r argyfwng cyflenwad tai.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

38

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu wrth y degawdau o fethiannau gan lywodraethau Llafur a Cheidwadol sydd wedi arwain at ein hargyfwng tai ac mae hynny wedi gwthio rhenti yn uwch ac yn uwch, wedi gadael miloedd o bobl heb obaith o gael eu troed ar yr ysgol eiddo, ac wedi golygu bod 1.5 miliwn yn llai o gartrefi cymdeithasol ar gael i’w rhentu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

44

48

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi nad yw polisi’r Ceidwadwyr Cymreig ‘Gweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’ yn cydnabod mai’r broblem tai mwyaf brys yw’r effaith enbyd y mae’r Dreth Ystafell Wely yn ei chael ar nifer o denantiaid tai cymdeithasol, gan effeithio ar allu landlordiaid cymdeithasol i gynyddu’r cyflenwad tai, ac felly’n annog Llywodraeth y DU i ddiddymu’r Dreth Ystafell Wely.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

15

48

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod oddeutu 21,551 o gartrefi gwag hirdymor yng Nghymru a bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chreu strategaeth cartrefi gwag ar gyfer Cymru gyfan.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

10

34

48

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod pryder adeiladwyr tai bod biwrocratiaeth yn y system gynllunio yn un o’r prif rwystrau i ddatblygu cartrefi newydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r Bil Diwygio Cynllunio arfaethedig i gael gwared ar y prif rwystrau rhag darparu trefn gynllunio effeithiol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

26

48

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu’r camau a gymerir gan Lywodraeth y DU i ysgogi’r gwaith o adeiladu tai newydd drwy fenthyciadau ecwiti a chynllun gwarant morgais, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i bennu dyddiad ar gyfer cyflwyno’r cynllun hirddisgwyliedig Cymorth i Brynu Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

34

48

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi mai dim ond un ar ddeg o gynghorau lleol yng Nghymru sy’n dal i fod â stoc tai cyngor yn eu meddiant ac mae hynny’n llesteirio gweledigaeth Ceidwadwyr Cymreig i adfer cynllun ‘Hawl i Brynu’ yng Nghymru, a bod y pwer i atal yr Hawl i Brynu tai cyngor mewn ardaloedd lle mae llawer o alw yn arf pwysig i helpu i leihau lefelau digartrefedd a phrinder tai cymdeithasol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

10

48

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5363 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi nad yw polisi’r Ceidwadwyr Cymreig ‘Gweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’ yn cydnabod mai’r broblem tai mwyaf brys yw’r effaith enbyd y mae’r Dreth Ystafell Wely yn ei chael ar nifer o denantiaid tai cymdeithasol, gan effeithio ar allu landlordiaid cymdeithasol i gynyddu’r cyflenwad tai, ac felly’n annog Llywodraeth y DU i ddiddymu’r Dreth Ystafell Wely.

2. Yn nodi mai dim ond un ar ddeg o gynghorau lleol yng Nghymru sy’n dal i fod â stoc tai cyngor yn eu meddiant ac mae hynny’n llesteirio gweledigaeth Ceidwadwyr Cymreig i adfer cynllun ‘Hawl i Brynu’ yng Nghymru, a bod y pwer i atal yr Hawl i Brynu tai cyngor mewn ardaloedd lle mae llawer o alw yn arf pwysig i helpu i leihau lefelau digartrefedd a phrinder tai cymdeithasol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r farchnad gyfan i sicrhau y ceir ateb i'r argyfwng cyflenwad tai.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

36

48

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

</AI6>

<AI7>

7    Dadl Plaid Cymru

 

Dechreuodd yr eitem am 15.59

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5362 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn Nodi:

a) canfyddiadau adroddiad ar newid yn yr hinsawdd gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd ei bod 95% yn sicr mai dylanwad dynol ar yr hinsawdd a achosodd dros hanner o'r cynnydd a nodwyd mewn tymereddau arwyneb cyfartalog o 1951-2010;

b) dibyniaeth barhaus Cymru ar danwyddau ffosil ar gyfer ynni, sy'n darparu tua 80% o'r anghenion ynni;

c) mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y defnydd o  adnoddau nwy siâl Cymru, ynghyd â rheoli unrhyw fudd sy'n deillio ohono;

d) methiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o gynhyrchu 4TWh o drydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2010;

e) er gwaethaf y ffaith bod Cymru yn allforiwr net trydan, mae biliau'n uwch yng Nghymru nag yn Lloegr neu'r Alban;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu ‘Map Llwybr’ manwl a Chynllun Gweithredu a fydd yn arwain at dargedau ynni adnewyddadwy 2020, gan ddangos targedau ar gyfer pob math unigol o ynni a'r camau a gymerir i gyrraedd y targedau hynny;

b) rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i ddatganoli yn llawn y portffolio ynni a rheoli adnoddau naturiol Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol;

c) cadarnhau gydag Ofgem a'r Grid Cenedlaethol a oes unrhyw ymchwil wedi'i gwneud i gost a hyfywedd cebl tanfor sy'n cysylltu'r Grid Cenedlaethol rhwng gogledd a de Cymru, ac os felly darparu copi o'r ymchwil honno;

d) ymchwilio i'r potensial i sefydlu cwmni ynni cyhoeddus, di-ddifidend i fuddsoddi mewn ynni er budd pobl Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

10

48

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

</AI7>

<AI8>

8    Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

 

Dechreuodd yr eitem am 16.55

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:

1. Atebolrwydd

11, 13

 

2. Gofal Lliniarol

4

 

3. Gwasanaethau a eithrir

5, 6, 10

 

4. Y cyfnod amser ar gyfer adennill costau

7

 

5. Apelau a hawlildiadau

1, 2, 3

 

6. Defnyddio Gwybodaeth

12

 

7. Defnyddio symiau a ad-delir

14, 15

 

8. Pŵer i atal y Ddeddf dros dro

8, 9

Cynhaliwyd y bleidlais yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli:

Derbyniwyd gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

26

47

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

26

46

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliannau 6 ac 10.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

37

49

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 13 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 14 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 15 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

1

37

48

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gan fod gwelliant 8 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 9.

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

 

</AI8>

<AI9>

9    Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

 

Dechreuodd yr eitem am 17.59

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir ar y cynnig:

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

10

48

Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI9>

<AI10>

CC

 

 

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.14

</AI10>

<AI11>

</AI11>

<AI12>

10 Dadl Fer

 

Dechreuodd yr eitem am 18.18

NDM5360 Keith Davies (Llanelli): Rheoleiddio gorfodol gan y wladwriaeth ar gyfer y diwydiant trin gwallt yng Nghymru: pryder iechyd cyhoeddus ehangach.

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:37

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 26 Tachwedd 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>